Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-02-14 papur 2

Rhoi Polisi Amaethyddol Cyffredin newidd ar waith

Cwmpas

Mae’r papur tystiolaeth hwn yn hysbysu’r Pwyllgor am Golofn 1 (taliadau uniongyrchol) y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn bennaf, yn dilyn fy natganiad i’r Cyfarfod Llawn ar 14 Ionawr 2014.  Mae’r papur yn cyfeirio’n fyr hefyd at Golofn 2 y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) newydd lle bo’n berthnasol i ffermio. 

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Bydd y newidiadau i’r PAC yn dechrau ar 1 Ionawr 2015 bellach, hynny oherwydd yr amser hir a gymerwyd i gytuno ar y diwygiadau terfynol.  Mae fframwaith rheoleiddio Ewrop ar gyfer diwygio’r PAC wedi’i gwblhau heblaw am y rheoliadau gweithredu a’r deddfau dirprwyedig (sy’n pennu’r manylion gweithredol); fe’u disgwylir yn fuan ac yna, gallaf wneud yr holl benderfyniadau sydd eto i’w gwneud mewn pryd ar gyfer cyflwyno’r cynigion llawn ar gyfer Colofn 1 i’r Comisiwn Ewropeaidd erbyn 1 Awst 2014.  Byddaf yn ymgynghori ar Golofn 2 ym misoedd Chwefror a Mawrth a chyflwynir y RhDG drafft i’r Comisiwn ym mis Mai.

€2.245bn yw cyfran Cymru o gyllideb PAC 2014-20 y DU ar gyfer Colofn 1 a €335m yw ei chyfran ar gyfer Colofn 2.  Mae’n bwysig bod yr un gyfran (8.69%) o Derfyn y DU yn cael ei neilltuo i Golofn 1 Cymru y tro hwn â’r tro cynt er bod gwerth y gyfran honno wedi gostwng 1.6% o’i gymharu â 2013[1] oherwydd y gostyngiad yng nghyllideb y DU.  Mae cyllideb Colofn 2 7.8% yn fwy nag yn 2007-13[2].  Caiff newidiadau pellach eu gwneud i’r PAC o 2020 a gallai’r gyllideb grebachu ymhellach.  Mae hynny’n ei gwneud yn arbennig o bwysig defnyddio’r diwygiadau ar gyfer 2014-20 i gryfhau’r diwydiant amaeth a’i wneud yn effeithiol a phroffidiol.

Ymgynghori

Dechreuwyd ymgynghori ar Golofn 1 yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2013 a daeth i ben ar 30 Tachwedd.  Yn ogystal, cynhaliais gyfarfodydd holi ac ateb poblogaidd ledled y wlad yn yr hydref.  Roedd yr ymatebwyr yn gefnogol ar y cyfan i’r cynigion er iddynt fynegi pryder y byddai taliadau arwynebedd yn golygu llai o gymorth ariannol.  Mae Atodiad A yn crynhoi’r prif bwyntiau.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori ar Golofn 2 yng ngwanwyn 2013 a bydd ymgynghoriad terfynol yn dechrau ym mis Chwefror.  Mae grŵp rhanddeiliaid o dan gadeiryddiaeth Peter Davies[3] wedi helpu i ddatblygu polisi.

Y Sefyllfa o ran Polisi

Polisi integredig yw’r PAC ac mae’r penderfyniadau ar Golofn 1 wedi cydnabod cwmpas Colofn 2 a’m huchelgais iddi gefnogi’r diwydiant ffermio a busnesau cysylltiedig a diogelu’r amgylchedd naturiol.  Rhaid i’r ddwy golofn gefnogi ffermio a rhaid defnyddio’r ddwy ar y cyd.  Rwyf am adeiladu ar Cynllun Datblygu Gwledig 2007-13 a defnyddio’r nesaf fel erfyn i ddatblygu ffermio a’r economi wledig ehangach. 

Rwyf wedi ystyried adroddiad Kevin Roberts ar gadernid y diwydiant ffermio.  Mae angen i ffermydd allu dygymod â phroblemau’n well, boed rheini’n rhai naturiol neu rai a achosir gan y farchnad.  Mae ystadegau diweddaraf yr Arolwg o Fusnesau[4] yn dangos bod gwahaniaeth mawr rhwng y ffermydd mwyaf proffidiol a’r fferm gyffredin.  Yr angen hwn i dargedu gwelliannau yn y diwydiant yw un o’m prif resymau dros drosglwyddo 15%, yr uchafswm a ganiateir, o gyllideb Colofn 1 i Golofn 2.  Un o brif amcanion y RhDG fydd gwneud y diwydiant yn gadarnach a mwy cystadleuol, i feithrin sgiliau a gwybodaeth ac ychwanegu at werth cynnyrch.

Taliadau Uniongyrchol Colofn 1

Mae gofyn i Gymru o 2015, yn unol â’r rheoliadau, gyflwyno Cynllun Taliadau Sylfaenol (BPS) yn lle’r Cynllun Taliadau Sengl.  Rhaid seilio taliadau’r cynllun newydd ar faint o dir sy’n cael ei ffermio.  Ceir disgresiwn ynghylch union siâp y BPS ac ynghylch pa mor gyflym y newidir i system sy’n gwbl seiliedig ar arwynebedd yn lle’r system o hawliau ‘hanesyddol’ a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru.  Bydd y BPS hefyd yn defnyddio ‘hawliau’ a Chronfa Genedlaethol sy’n rhoi blaenoriaeth i ffermwyr ifanc a ffermwyr newydd.  Bydd yn rhaid i bob hawlydd fodloni amodau ‘gwyrddu’ fydd yn cyfrif am 30% o’u taliadau. Mae gan ffermwyr ifanc cymwys[5] yr hawl i daliadau BPS ychwanegol.  Dim ond ‘ffermwyr actif’ fydd yn cael hawliau a hawlio taliadau.  Bydd taliadau dros €150k y flwyddyn yn cael eu lleihau 5%.  Mae cynlluniau dewisol ar gyfer cymorth cysylltiedig, ar gyfer cyflwyno Cynllun Ardal â Chyfyngiadau Naturiol, ar gyfer cynllun symlach ar gyfer ffermydd bach ac i dalu taliadau uwch ar ‘hectarau cyntaf’ pob hawliad (sy’n pwysoli taliadau ar gyfer ffermydd bach).

Mae Atodiad 2 yn crynhoi fy mhenderfyniadau ynghylch Colofn 1.  Cewch benderfyniadau pellach gennyf ar eu manylion yn y gwanwyn pan fydd y deddfau dirprwyedig a’r rheoliadau gweithredu wedi’u cwblhau.  Byddant yn ymwneud ag agweddau ar y taliadau gwyrdd, amodau pellach ar gyfer y taliadau ychwanegol i ffermwyr ifanc a’r Gronfa Genedlaethol a’r diffiniad o ‘ffermwyr actif’.

Mae’r paragraffau canlynol ym ymhelaethu ar y prif benderfyniadau yn Atodiad 2.

System dalu

Mae llawer o waith modelu wedi’i wneud a’i rannu â gweithgor rhanddeiliaid sy’n cynnwys undebau ffermwyr.  Mae’r FUW, NFU Cymru, CAAV a’r CLA wedi cytuno â’r nod, wrth newid i system arwynebedd, y gwneir hynny mewn ffordd sy’n peri’r newid lleiaf i’r taliadau cyfredol.  Fy amcanion eraill yw cydnabod cynhyrchiant amaethyddol y tir, lleihau’r risg o arafu taliadau neu feirniadaeth gan archwilwyr ariannol ac i gwblhau’r newid o fewn cyfnod sy’n rhoi digon o amser i addasu ond sy’n mynnu newid o fewn cyfnod realistig.  Mae gwerthoedd yr hawliau ‘hanesyddol’ pan ystyrir y taliadau a wneir i ffermwyr heddiw fesul hectar yn amrywio’n fawr ac mae hynny’n gwneud y newid hwn yn anoddach – Tabl 1.  Ceir ffermydd ym mhob sefyllfa yng Nghymru sydd â hawliau uchel ac isel eu gwerth.  Felly mae newid i ddefnyddio nifer fechan o gyfraddau talu cyffredin yn golygu newid go iawn.  Mae’r hawliau uchel iawn eu gwerth sydd gan rai ffermwyr ar hyn o bryd yn anghynaliadwy. 

Mae gwaith modelu data wedi dangos ei bod yn bwysig rhoi rhostir mewn categori penodol er mwyn lleihau’r newid ariannol i ffermwyr.  Y cynnig gwreiddiol oedd neilltuo 287,000 ha yn rhostir gan ddefnyddio map llystyfiant a wnaed ym 1992.  Fel ymateb i’r adborth, rwyf wedi newid y cynnig i gyfyngu’r hyn a olygir wrth rostir i’r tiroedd sydd 400m neu uwch ar fap 1992.  Mae hynny’n lleihau’r arwynebedd sy’n rhostir i 157,300 ha, a chaiff y rhan fwyaf o’r tir sy’n weddill ei ailddosbarthu’n Dir dan Anfantais Fawr (Tabl 2).  Mae hynny’n cymryd tir pori o ansawdd gwell o’r rhostir (gan leddfu gofidiau llawer o berchenogion tir), yn cyfateb yn well y rhanbarthau tir â’u potensial i gynhyrchu ac yn gosod sail wrthrychol glir i berchenogion tir fydd am apelio yn erbyn y categori rhostir.

Tabl 1: y gwahaniaethau yng ngwerth hawliau fesul hectar ar gyfer rhanbarthau tir gwahanol

 

 

€ yr ha

Rhanbarth

# Ffermydd

Cyfartaledd

Isaf

Isel

Uchel

Uchaf

DA & llawr gwlad

1,509

255

6

58

433

2,024

Llawr gwlad

2,641

250

2

72

431

12,110

Eraill heb rostir

1,306

242

4

101

381

42,943

DA

2,990

225

1

68

393

3,967

DA & SDA

1,967

222

7

89

365

2,216

SDA

2,755

187

7

74

306

2,983

Eraill â rhostir

1,374

155

12

75

294

2,707

Rhostir a SDA

1,506

132

2

61

261

1,182

Cyfanswm

16,048

196

1

122

245

42,943

Ffynhonnell: Hawlwyr SPS 2012, pan fo rhostir yn 400m neu uwch ar fap rhostiroedd 1992.  Mae’r colofnau ‘isel’ ac ‘uchel’ yn dangos gwerthoedd sy’n cynrychioli 90% o’r ffermydd, ac mae ‘isaf’ ac ‘uchaf’ yn dangos y gwerthoedd isaf ac uchaf.

Mae’r arwynebedd llai o rostir yn werth rhyw 12% o’r tir yr hawlir SPS arno ar hyn o bryd (Tabl 2).  Mae’r gwaith modelu a wnaed ers yr ymgynghoriad gan ddefnyddio data hawlio 2012 yn dangos y byddai model dau ranbarth yn arwain at fwy o newid na model tri rhanbarth.  Mae lleihau rhostir yn ôl uchder yn golygu y telid yr un gyfradd ar bron i 90% o’r tir ffermio yng Nghymru.  Mae hyn wedi’m sbarduno i ailystyried fy nghynnig yn yr ymgynghoriad a phenderfynu cyflwyno yn hytrach system dalu sy’n defnyddio tri rhanbarth tir – rhostir; SDA; a DA a llawer gwlad gyda’i gilydd.

Tabl 2: maint y rhanbarthau tir (hectarau), eu cyfran o’r holl dir ffermio yr hawlir arno, y cymarebau talu arfaethedig a’r taliadau blynyddol cronnus yn 2019.

Nodwedd

 

Rhanbarth Tir

 

 

 

Rhostir

SDA

DA/llawr gwlad

Cyfanswm

Arwynebedd (ha)

 

157,300

617,700

558,000

1,333,500

% yr arwynebedd a hawlir

 

12

46

42

100

Cymhareb dalu

 

1

10

12

n/a

Cyfraddau talu bras €

 

20

200

240

196 (taliad safonol Cymru)

Taliad cronnus bras €m y flwyddyn

 

3.1

123.7

134.2

261

Ffynhonnell: Hawlwyr SPS 2012.

Mae gwaith modelu wedi nodi senarios y cyfraddau talu sy’n ffitio orau o safbwynt ystadegol ar gyfer pob model.  Wrth gymharu modelau sy’n defnyddio data hawlio blynyddoedd gwahanol, ceir cyfraddau talu ‘gorau’ gwahanol iawn.  Hynny gan fod nifer a maint hawliadau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.  Ni fydd yn bosib cyfri’r cyfraddau ‘gorau’ ar gyfer y Cynllun newydd tan y caiff yr hawliadau cyntaf eu gwneud (2015) ac y bydd maint y galw i’r Gronfa Genedlaethol ac am y taliadau chwyddo i ffermwyr ifanc yn hysbys.  Wedi hynny, bydd gwahaniaethau’n parhau o flwyddyn i flwyddyn wrth newid i system sy’n gwbl seiliedig ar daliadau arwynebedd gan y bydd nifer a maint hawliadau’n newid bob blwyddyn, fel ag y maent nawr.  Y casgliad felly yw nad oes y fath beth â chyfradd dalu ddelfrydol.  Mae’r gwaith modelu’n rhoi syniad pa ranbarthau tir ddylai fod yn y system dalu, a beth ddylai eu gwerthoedd cymharol fod.  O fewn y 30 senario sy’n ffitio orau, mae’r cyfraddau talu yn amrywio’n fawr; nid ydym wedi cyfrif hyn yn union ond mae gwahaniaeth o €5 i €10 ym mhob rhanbarth yn nodweddiadol.  Ar ôl ystyried y senarios sy’n ffitio orau, rydym wedi penderfynu y byddai cymhareb dalu o 1:10:12 yn cadw cydbwysedd rhesymol rhwng y tri rhanbarth.  Pan ddaw 2019, byddai hynny’n rhoi i ni’r cyfraddau talu a’r cyfanswm taliadau bras a welir yn Nhabl 2.

Mae Tabl 3 yn dangos effaith y system tri rhanbarth â’r cyfraddau talu hyn ar y taliadau cyfun i sectorau fferm gwahanol a nifer y ffermydd fyddai’n gweld cynnydd neu ostyngiad yn eu taliadau o fwy neu o lai na €5,000.  Mae Tabl 4 yn dangos yr un data ar gyfer y rhanbarthau tir.  Mae’r ddau dabl yn dangos data’n seiliedig ar y sefyllfa a ragwelir yn 2019.

Mae’n amlwg y bydd llawer o ffermydd ar eu hennill a llawer eraill ar eu colled a hynny o fewn yr un sector.  Rhwng popeth, y sector godro fyddai’n gweld y gostyngiad net a chyfrannol mwyaf, a’r sector defaid fyddai’n gweld y cynnydd mwyaf.  Rhagwelir y bydd y sector godro’n derbyn taliadau llai o dan bob model sy’n seiliedig ar arwynebedd, hynny am fod gan ffermydd godro hawliau hanesyddol uwch eu gwerth yn sgil troi cwotâu llaeth yn hawliau hanesyddol ychwanegol.  Nid oes gan y ffermydd hyn fel arfer ddigon o arwynebedd o dir i wneud i fyny am y golled.  Nodwedd gyffredin arall o’r holl fodelau a archwiliwyd yw y bydd ffermydd bach â llai nag 20 ha yn tueddu i fod ar eu hennill, yn bennaf am nad oes ganddynt fawr o hawliau hanesyddol, os o gwbl, a’u bod felly yn derbyn taliadau SPS bach iawn ar hyn o bryd.

Tabl 3: gwerth taliadau (€m) a nifer y ffermydd fydd yn gweld newid ariannol o fwy neu o lai na €5,000 ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd erbyn 2019 o’i gymharu â llinell sylfaen sy’n seiliedig ar y gyllideb.

 

 

Gwerth (€miliwn)

 

Newid (€miliwn)

 

% newid

Llin. Sylfaen

Ar sail tir

Ennill

Colli

Net

 

 

 

Cyfanswm

261.0

261.0

42.7

42.7

0.0

0.0%

 

Math o fferm

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Godro

43.2

34.8

2.2

10.7

-8.5

-19.6%

Eidion

35.0

34.5

5.8

6.4

-0.5

-1.4%

Defaid

64.3

73.2

15.7

6.9

8.8

13.7%

Defaid ac eidion

67.0

63.1

6.8

10.7

-3.8

-5.7%

Eraill mawr

45.0

46.8

8.9

7.1

1.8

4.0%

Bach

5.9

8.0

3.0

0.8

2.2

36.7%

Micro

0.6

0.6

0.2

0.2

0.0

0.5%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y ffermydd

 

 

 

Ennill>€5k

 

Ennill <€5k

 

Colli <€5k

 

Colli >€5k

 

C’swm

 

 

Godro

 

157

 

330

 

403

 

604

 

1,494

 

 

Eidion

 

423

 

763

 

503

 

347

 

2,036

 

 

Defaid

 

908

 

1,383

 

717

 

383

 

3,391

 

 

Defaid ac eidion

 

441

 

737

 

708

 

638

 

2,524

 

 

Eraill mawr

 

626

 

1,116

 

504

 

372

 

2,618

 

 

Bach

 

0

 

2,530

 

546

 

29

 

3,105

 

 

Micro

 

0

 

662

 

213

 

5

 

880

 

 

Ffynhonnell: Hawlwyr SPS 2012.

Pan ystyrir dosraniad y taliadau o safbwynt rhanbarthau tir, gwelir bod y system a ddewiswyd yn ailddosbarthu arian o lawr gwlad i’r ucheldir (Tabl 4).  Rhostir a'r Ardaloedd tan Anfantais Fawr sydd ar eu hennill fwyaf.  O’u cyfuno, caiff €126.8m y flwyddyn ei sianelu iddynt (Tabl 2), sy’n fwy na’r €118.4 y flwyddyn y byddai system tri rhanbarth heb gyfyngu rhostir ar sail uchder yn ei roi.  Dyma amcangyfrif o ganlyniadau’r system daliadau newydd:

·         byddai 10,076 o ffermydd yn cael taliadau uwch[6] o dan system arwynebedd lwyr o’u cymharu â’r dyraniadau hanesyddol (wedi’u haddasu yn ôl y gyllideb);

·         byddai 3,594 yn colli hyd at €5,000 a 2,378 yn colli mwy na €5,000;

·         fe welid enillion yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Ceredigion, Sir Fynwy ac yn enwedig o ran maint cymharol yr enillion (€4.2m neu 24%), De Cymru a

·         gwelid y colledion net mwyaf ym Mhowys o safbwynt ariannol (tua €6.3m) ond o safbwynt cymharol, yn y Fflint a Wrecsam (-12.9%)

Tabl 4: gwerth taliadau (€m)a’r newid iddynt  erbyn 2019 ar gyfer rhanbarthau tir gwahanol, a nifer y ffermydd fyddai ar eu hennill neu ar eu colled yn ôl cymysgedd/math o ranbarth tir o’i gymharu â llinell sylfaen yn seiliedig ar y gyllideb.

 

 

Gwerth (€ miliwn)

 

Newid (€ miliwn)

 

Newid

Cymysgedd tir

Llin. Sylfaen

Ar sail tir

Ennill

Colli

Net

cymharol

 

 

Llawr gwlad

38.3

36.8

5.4

6.9

-1.5

-3.8%

DA

25.3

27.0

5.8

4.1

1.7

6.7%

SDA

25.8

27.5

5.1

3.3

1.8

6.8%

DA a Llawr gwlad

32.0

30.1

4.2

6.1

-1.9

-5.8%

DA & SDA

32.4

31.7

4.7

5.4

-0.8

-2.4%

Eraill heb rostir

29.5

26.9

3.0

5.6

-2.6

-9.0%

Rhostir a SDA

30.8

33.5

6.8

4.1

2.7

8.8%

Eraill â rhostir

46.9

47.5

7.7

7.1

0.6

1.2%

 

 

 

Nifer y ffermydd

 

 

 

Ennill>€5k

 

Ennill <€5k

 

Colli <€5k

 

Colli >€5k

 

C’swm

 

 

Llawr gwlad

 

359

 

1,306

 

563

 

413

 

2,641

 

 

DA

 

352

 

1,841

 

547

 

250

 

2,990

 

 

SDA

 

263

 

1,536

 

754

 

202

 

2,755

 

 

DA a llawr gwlad

 

289

 

610

 

287

 

323

 

1,509

 

 

DA & SDA

 

297

 

900

 

451

 

319

 

1,967

 

 

Eraill heb rostir

 

199

 

467

 

349

 

291

 

1,306

 

 

Rhostir & SDA

 

408

 

519

 

357

 

222

 

1,506

 

 

Eraill â rhostir

 

388

 

342

 

286

 

358

 

1,374

 

 

Ffynhonnell: Hawlwyr SPS 2012.

Bydd y system newydd wedi’i chyflwyno’n llwyr erbyn 2019.  Mae cyfnod pontio o bum mlynedd yn un rhesymol ac yn cadw’r cydbwysedd rhwng newid sy’n digwydd yn ddigon cyflym i fod yn ystyrlon a newid sy’n ddigon araf i’r ffermydd sydd ar eu colled fedru addasu iddo.  Fy uchelgais oedd gweld na fyddai ffermydd yn colli mwy na 10% mewn unrhyw flwyddyn yn y cyfnod newid.  Mae’r modelau ar gyfer fy nghynnig yn dangos y byddai hynny’n wir ar gyfer 84% o’r hawlwyr cyfredol.  Bydd y gyfran honno’n codi i 89% o hawlwyr pe bai’r rheini y gellid dadlau sy’n derbyn taliadau bach[7] yn cael eu tynnu o’r darlun. 

Rwyf wedi modelu opsiwn y twnnel a phenderfynu ei wrthod gan y byddai’n golygu y byddai nifer fawr o ffermydd sydd ar hyn o bryd yn derbyn taliadau hael iawn yn dal i gael mwy na’r gyfradd darged yn 2019.  Yr un pryd, byddai 10,153 o ffermydd yn derbyn llai na’r gyfradd darged.  Mae Atodiad C yn crynhoi’r data hwnnw. Er nad wyf am wneud yn fach o’r anawsterau a wynebid gan unrhyw fusnes sy’n colli cymhorthdal, ni ddaw mantais i’r diwydiant o gael lleiafrif yn parhau i dderbyn lefelau sylweddol uwch o gymhorthdal (a hynny dros lawer o flynyddoedd) tra bo’r mwyafrif yn dal i dderbyn llai na’u hawl. Trwy gwblhau’r newid erbyn 2019, lleiheir y risg y bydd diwygiadau pellach i’r PAC ar ôl 2020 yn newid y system dalu eto, gan adael y rheini sydd heb eu newid i lefelau cymorth is yn agored i ostyngiad sydyn yn eu cymorth. Byddai perygl hefyd y gallai Llywodraeth Cymru gael ei chyhuddo o anghydffurfio â rheolau a safonau archwilio’r cynllun.

Mae fy mhenderfyniadau eraill yn hunanesboniadol ac fe’u disgrifir yn fras yn Ffigur 2. Cafwyd cefnogaeth yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad o blaid codi maint yr hawliad lleiaf i bum hectar a gosod cap uwch ar daliadau mawr – bydd hyn yn ychwanegol at y cap o 5% ar daliadau o €150,000 neu fwy sy’n ofynnol gan Ewrop. Bydd yr elfen wyrddu’n cyfrif am 30% o’r cymorth i ffermwyr ac roedd yr ymgynghoriad yn cefnogi mabwysiadu cynigion gwreiddiol y Comisiwn.  Rwy’n cydnabod na fyddant yn debygol o ddod â manteision ychwanegol i amgylchedd naturiol Cymru a chydnabyddiaeth o hynny yw un o’r rhesymau pam rwyf wedi dewis trosglwyddo 15% o Golofn 1 i Golofn 2 a hefyd rhoi hwb i’r gefnogaeth i wasanaethau bywyd gwyllt ac ecosystem trwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol er enghraifft.

Colofn 2 – Y Rhaglen Datblygu Gwledig

Rhaglen 7 mlynedd yw’r RhDG sy’n cael ei noddi gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i wneud y sector amaeth a choedwigaeth yn fwy cystadleuol; i ddiogelu a gwella’r amgylchedd gwledig ac i feithrin busnesau gwledig cystadleuol a chynaliadwy a chymunedau ffyniannus.  Mae Atodiad D yn crynhoi’r blaenoriaethau rheoliadol a’r meysydd ffocws.  Fy amcan ar gyfer y RhDG nesaf yw ei ddefnyddio i sicrhau bod busnesau amaethyddol a gwledig ar ddiwedd cyfnod y rhaglen yn 2020 yn gadarnach ac yn fwy cystadleuol nag yr oeddynt ar ei ddechrau.  Hoelir yr amcan hwn yng nghyd-destun Twf Gwyrdd, gyda’r amcanion o gryfhau agweddau economaidd, cynaliadwyedd a chymdeithas bywyd cefn gwlad Cymru.  Y pwyslais yw gweddnewid galluoedd busnes a chymdethas cefn gwlad Cymru.  Yn unol â strategaeth 2020 Ewrop, nod y RhDG fydd sicrhau twf sy’n:

·         ddoeth, trwy fuddsoddi’n fwy effeithiol mewn addysg, ymchwil ac arloesedd;

·         cynaliadwy, camau pendant tuag at economi carbon isel; ac yn

·         gynhwysol, gyda phwyslais cryf ar greu swyddi a lleihau tlodi.

Bydd yr ymgynghoriad ym mis Chwefror yn trefnu’r blaenoriaethau o gwmpas y themâu bras hyn er mwyn: rhoi sgiliau a gwybodaeth i bobl; gwneud buddsoddiadau da ar gyfer dyfodol gwell; diogelu ein hasedau naturiol; defnyddio ynni adnewyddadwy; a chryfhau cymunedau.

Mae’r RhDG yn gyfrwng i gadw rheolaeth dynnach ar bolisi a dyna pam rwyf wedi penderfynu trosglwyddo 15% o Golofn 1 a gosod cyfradd ymyrraeth sy’n uwch na’r gofyn yn ôl y rheoliadau er mwyn cynyddu cyfanswm rhaglen y RhDG ar gyfer 2013-20.

Mae’r rhan fwyaf o’r arian a werir o dan Golofn 2 eisoes yn mynd at bobl sydd hefyd yn cael taliadau uniongyrchol y PAC, a bydd hynny’n parhau.  Bydd y RhDG yn cynnwys help i ffermwyr ddatblygu’u busnesau a’u sgiliau ariannol a phroffesiynol, gwasanaeth cynghori gwell, buddsoddi ar y fferm (trwy grantiau ac efallai benthyciadau) a chymorth i arallgyfeirio.  Bydd yr help i ffermwyr ifanc o dan y RhDG yn ategu’r uchod a chaiff Glastir ei ddiwygio, gan gynnwys elfennau organig, rhostir, tir comin a choetir yn rhan ohono.  Cynorthwyir ffermydd yr ucheldir yn arbennig gan fod y cyfleoedd i arallgyfeirio’n brinnach ac nad yw’r farchnad yn cydnabod gwerth gwasanaethau ecosystem.

Fy amcan pennaf fydd sbarduno newid yn y diwydiant amaeth iddo gynyddu cynhyrchiant, ei gryfhau i ddygymod â phroblemau, ychwanegu at werth a chyfleoedd ei gynhyrchion, annog arloesedd a hybu cydweithredu.  Byddaf yn neilltuo tua 10% o arian y rhaglen i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd er mwyn gallu ymgorffori amrywiaeth o sgiliau busnes a phroffesiynol, ac yn ehangu ac yn gwella gwasanaethau cynghori a fydd nawr yn cynnwys iechyd anifeiliaid a phlanhigion ac ynni adnewyddadwy.  Bydd mentora a dysgu ‘ffermwr gan ffermwr’ yn nodwedd ganolog ohono wrth i ni symud yn ein blaenau.  Byddwn yn helpu ffermydd bach i gydweithredu â’i gilydd ac yn helpu cadwyni cyflenwi byr a marchnadoedd lleol, gan gynnwys cadwyni cyflenwi ynni adnewyddadwy.

Rydym yn bwriadu defnyddio tua 15% o arian y rhaglen i gynnig cynllun buddsoddi hyblyg a fydd yn darparu grantiau ac o bosibl benthyciadau a nwyddau ariannol eraill at ddibenion amaethyddol a choedwigol ac i helpu arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol.  Cyn y gallwn gynnig buddsoddi, bydd yn rhaid wrth gynllun busnes addas, dadansoddiad hyfforddiant a sgiliau er mwyn sicrhau’r lefelau sgiliau angenrheidiol, strategaeth ymadael os oes angen ac asesiad o werth am arian.

Rwyf ar fin ymgynghori ar newidiadau i Glastir, a fydd yn cynnwys miniogi’r Lefel Sylfaenol, cynllun wedi’i dargedu ar rannau o ffermydd, opsiynau i gryfhau ffermydd yr ucheldir a chynllun cynnal a throi’n organig.  Hefyd, rwy’n disgwyl ariannu cynllun i olynu’r Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid trwy’r RhDG, gan gynnig cymorth dechrau busnes i ffermwyr ifanc newydd a ffermwyr ifanc sy’n olynu fel pennaeth daliad.  Neilltuir tua 60% o arian y rhaglen ar gyfer cyrsiau tir.

Mae LEADER, o fewn y RhDG, yn sbarduno newid a bydd yn gyfrifol am annog arloesedd – yn hwyluso arbrofi a threialu dulliau, prosesau a chynnyrch newydd cyn iddynt fynd ar y farchnad.  Rwy’n disgwyl cynnig fframwaith bras o opsiynau thematig, gyda Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl) yn cael dewis mwy nag un opsiwn i adlewyrchu anghenion eu hardal.  Drwy hynny, sicrheir bod adnoddau LEADER yn cefnogi’r prif flaenoriaethau heb amharu ar swyddogaeth GGLlau fel erfyn llywodraethu, gan alluogi cymunedau i gyfrannu a symbylu arloesedd ar lawr gwlad.

Rwy’n disgwyl cynnig cronfa ganolog y gall GGLlau a mudiadau cymunedol eraill wneud cais iddi ar gyfer cynnal prosiectau cymunedol sy’n cefnogi gwasanaethau sylfaenol ac adnewyddu pentrefi.  Er fy mod am i holl elfennau’r RhDG gael eu mesur yn erbyn Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi Lywodraeth Cymru, byddaf am i’r gronfa roi pwyslais neilltuol ar yr amcanion hyn. Bydd LEADER a Datblygu Lleol yn cyfrif gyda’i gilydd am ryw 10% o arian y rhaglen.

Byddaf yn symleiddio’r model darparu er mwyn creu nifer fach o elfennau y bydd ystod eang o fuddiolwyr yn gallu manteisio arnyn nhw.  Ei ffocws fydd darparu cymorth sy’n ateb amgylchiadau unigryw’r buddiolwr.  Dyma fydd y prif elfennau: mesurau cyfalaf dynol a chymdeithasol; mesurau buddsoddi; mesurau ar sail ardal; a LEADER a datblygu lleol.  Bydd pwyslais o’r newydd ar fannau cyswllt hwylus ac ar helpu’r buddiolwr trwy ei ddatblygu yn hytrach na darparu ystod o atebion ar wahân a chymharol tymor byr i ddatrys problemau’r funud.  Am y rheswm hwn, caiff pwyntiau cyswllt cyflym eu creu i’r rheini fydd am gymorth y RhDG er mwyn gallu ystyried eu hanghenion yn unol â’r ystod cyfan o gymorth sydd ar gael, yn hytrach na’u hystyried ar wahân fel sydd wedi bod yn digwydd.

Gwneir y gorau o’r arian sydd ar gael ar gyfer darparu cymorth technegol i greu fframwaith cymorth, a fydd fel ‘llu maes’ i weithio mewn amrywiaeth o feysydd gwledig.  Gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori a’r rhwydwaith o Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER, bydd yr adnodd hwn yn estyniad i’r cymorth a ddarperir gan y RhDG a’r tu allan iddo i sicrhau canlyniadau gwell i bobl, busnesau a chymunedau cefn gwlad.   

Bydd gofyn i arian y RhDG yn y dyfodol gael ei integreiddio a’i alinio mewn ffordd ystyrlon â Cholofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) a chyda Chronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop er mwyn ychwanegu at eu gwerth a’u heffaith.  Bu cydweithio clos â swyddogion sydd wrthi’n datblygu’r cronfeydd eraill a chynhaliwyd digwyddiadau cydymgynghori â’r Cronfeydd Strwythurol.  Bydd yr ymgynghoriad yn disgrifio sut y mae’r cronfeydd yn ategu’i gilydd a sut mae’r RhDG yn ychwanegu at werth.  Parheir i ddatblygu hyn trwy broses dylunio’r cynllun cyn ei gyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd. 

Casgliad

Amcan cyffredinol diwygio’r PAC yw defnyddio’r ddwy Golofn ar y cyd i roi ffermio yng Nghymru ar seiliau gwell i sicrhau dyfodol proffidiol wrth i gymorth y PAC leihau dros y tymor hir.

Alun Davies AC

Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

 


Atodiad  A

Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar Golofn 1

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar Golofn 1 yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf 2013, a daeth i ben ar 30 Tachwedd. I gyd-fynd â’r ymgynghoriad, cynhaliodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd sesiynau holi ac ateb ledled Cymru, a daeth cryn nifer i’r cyfarfodydd hynny. Dyma fyrdwn yr hyn yr oedd yr  ymatebwyr am ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru:

·         Cytunwyd y dylid pennu cyfraddau talu gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o dir, ond nid oedd unrhyw gonsensws ynghylch y cyfraddau hynny nac ychwaith ynghylch a ddylid seilio’r system daliadau ar ddau neu ar dri rhanbarth tir. Roedd gan ffermwyr yr ucheldir a ffermwyr llawr gwlad safbwyntiau gwahanol, gyda’r naill garfan a’r llall yn dadlau y dylid pwysoli’r taliadau o blaid eu hardal hwy.

·         Roedd pryder am faint yr ardal o rostir a gynigiwyd yn wreiddiol, am y ffaith bod tir pori wedi’i wella yn cael ei gynnwys ynddi, ac am y gyfradd arfaethedig o €49 yr hectar. Cafwyd ymateb gwell i’r cynnig i adolygu rhostir ar sail ei uchder (er bod rhai amheuon o hyd), a derbyniwyd y byddai hynny’n haws i’w ddeall a’i weinyddu.  

·         Roedd yr ymatebwyr yn deall y byddai’r gostyngiad yng nghyllideb PAC yr UE yn effeithio ar daliadau yng Nghymru. Roedd pryder y byddai hynny, ynghyd â seilio taliadau ar arwynebedd yn hytrach nag ar y tir sy’n cael ei ffermio, fel y gwnaed yn hanesyddol, yn arwain at ostyngiad sylweddol yn y taliadau tybiannol y bydd llawer yn eu cael ar gyfer pob hectar.

·         Roedd awydd amlwg i weld y diwydiant da byw ar yr ucheldir yn cael ei gynnal, a beirniadwyd yr ymyriadau polisi sydd ar waith ar hyn o bryd a’r rheini a welwyd yn y gorffennol. Roedd peth pryder y byddai llai o ffermio stoc ar yr ucheldir yn arwain at sefyllfa lle bydd tir yn cael ei adael yn segur, ac y byddai’n effeithio hefyd ar ffermio stoc ar lawr gwlad. Dadleuai eraill i’r gwrthwyneb, gan ddweud mai ar lawr gwlad yn bennaf y mae’r ffermydd sy’n cynhyrchu fwyaf, ac mai nhw sy’n haeddu cymorth fwyaf, am mai dyma’r busnesau mwyaf hyfyw a phroffidiol. Nid oedd fawr o gefnogaeth o blaid cyflwyno cynllun cymorth cysylltiedig, ac ni chyflwynwyd unrhyw ddadl argyhoeddiadol o blaid cynllun o’r fath.

·         Roedd cryn ddiddordeb yn y modd y bwriedir dyrannu hawliau, a phryder mai dim ond ‘ffermwyr actif’ fydd yn eu cael.

·         Roedd cytundeb mai cynigion gwreiddiol y Comisiwn ar wyrddu yw’r dewis gorau.

·         Roedd ymatebwyr o blaid targedu’r cymorth at ffermydd ‘go iawn’, yn hytrach nag at ffermwyr ‘hamdden’, ac roedd rhai (ond nid pawb, o bell ffordd) o’r farn mai cynhyrchu bwyd ddylai gael blaenoriaeth a bod y pwyslais ar yr amgylchedd naturiol wedi bod yn llyffethair i ffermydd. 

·         Roedd awydd i weld ffermwyr ifanc a ffermwyr newydd yn cael eu cefnogi (er bod hynny’n gwrthdaro â’r farn gyffredin bod angen gofalu, wrth newid i daliadau sy’n seiliedig ar arwynebedd, fod y broses honno’n cael ei rheoli mewn ffordd a fydd yn arafu ac yn sicrhau’r gostyngiadau lleiaf posibl i’r ffermwyr hynny a fydd ar eu colled o dan y drefn newydd). 

·         Roedd cydnabyddiaeth yn y cyfarfodydd fod cyfnod pontio byrrach (tua phum mlynedd) yn synhwyrol, ond nid oedd hynny’n cael ei adlewyrchu i’r un graddau yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

·         Roedd amheuon ynghylch sut yn union y byddai trosglwyddo cyllid i Golofn 2 o fudd i ffermio, a’r dymuniad oedd mai cyfradd fach yn unig o’r cyllid, neu ddim cyllid o gwbl, fyddai’n cael ei drosglwyddo.


 

Atodiad B

Crynodeb o’r penderfyniadau ar Golofn 1

Y mater dan sylw

Penderfyniad

Pa system daliadau i’w dewis

Cyflwyno model tri rhanbarth, a fydd yn  seiliedig ar rostir (400m neu uwch ar fap rhostiroedd 1992), Ardaloedd dan Anfantais Fawr (SDA), ac Ardaloedd dan Anfantais (DA) a llawr gwlad gyda’i gilydd. Pennu cyfraddau talu dangosol o €20 yr hectar ar gyfer rhostir, €200 ar gyfer SDA, a €240 ar gyfer DA/llawr gwlad ar gyfer 2019 – bydd y cyfraddau talu gwirioneddol yn dibynnu ar nifer yr hawliau a ddyrennir yn 2015, ar y gyfran o’r hawliau hynny a gaiff eu defnyddio, ar y galw o’r Gronfa Genedlaethol a’r galw ymhlith ffermwyr ifanc cymwys am daliadau ychwanegol. 

 

Hyd y cyfnod pontio

Cwblhau’r gwaith o gyflwyno Cynllun Taliadau Sylfaenol ymhen 5 mlynedd, erbyn 2019.

 

Maint yr hawliad lleiaf

Codi maint yr hawliad lleiaf o 1 ha i 5 ha.

 

Gosod cap ar daliadau

Cyflwyno cap ychwanegol ar unrhyw daliadau o €150,000 neu fwy y flwyddyn o dan y Cynllun Taliadau Sylfaenol, gan ddefnyddio system gapio haenog a fydd yn golygu na fydd unrhyw elfen o hawliad sy’n fwy na €300,000 yn cael ei thalu. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gwariant ar gyflogau wrth gyfrifo faint o arian i’w dynnu o dan y system gapio.    

 

Cynllun Ffermwyr Bach neu Daliadau Ailddosbarthu

Nid fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cynllun Ffermwyr Bach na Thaliadau Ailddosbarthu.

Gwyrddu

Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r cynigion gwyrddu gwreiddiol sydd yn y Rheoliadau. 

Cynllun Taliadau Cysylltiedig

Cynllun AchN

Ni fydd Cynllun Taliadau Cysylltiedig.

Ni fydd Cynllun AchN


Atodiad C

Opsiwn y twnnel – nifer y ffermydd a fydd yn uwch neu’n is na’r cyfraddau talu targed erbyn 2019, yn nhrefn gwerth eu hawliau hanesyddol fesul hectar

 

 

Taliadau hanesyddol yr hectar mewn €

 

 

 

 

O dan 100

 

100 i 200

 

200 i 300

 

300 i 400

 

O leiaf 400

 

Cyfanswm

 

 

y % y bydd ffermydd dros neu o dan y gyfradd darged erbyn 2019

 

Drosti >50%

6

33

46

124

596

805

Drosti 40% i 50%

1

19

27

279

19

345

Drosti 30% i 40%

2

34

112

413

0

561

Drosti 20% i 30%

4

60

411

485

0

960

Drosti 10% i 20%

13

129

1,179

64

0

1,385

Drosti <10%

15

248

1,576

0

0

1,839

Oddi tani <10%

22

657

942

0

0

1,621

Oddi tani 10% i 20%

45

1,810

415

0

0

2,270

Oddi tani 20% i 30%

99

2,028

0

0

0

2,127

Oddi tani 30% i 40%

1,694

1,535

0

0

0

3,229

Oddi tani 40% i 50%

906

0

0

0

0

906

Oddi tani  >50%

0

0

0

0

0

0

Cyfanswm

2,807

6,553

4,708

1,365

615

16,048

 

 

Ffermydd lle bydd y newid yn fwy na  5,000 euro

 

Drosti  >50%

3

24

42

95

478

642

Drosti 40% i 50%

1

16

22

220

12

271

Drosti 30% i 40%

0

26

78

299

0

403

Drosti 20% i 30%

3

41

246

278

0

568

Drosti 10% i 20%

6

53

335

28

0

422

Drosti <10%

2

18

52

0

0

72

Oddi tani < 10%

3

16

13

0

0

32

Oddi tani 10% i 20%

18

298

31

0

0

347

Oddi tani 20% i 30%

63

574

0

0

0

637

Oddi tani 30% i 40%

652

507

0

0

0

1,159

Oddi tani 40% i 50%

380

0

0

0

0

380

Oddi tani  >50%

0

0

0

0

0

0

Cyfanswm

1,131

1,573

819

920

490

4,933

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffynhonnell: hawliadau SPS  2012.


Atodiad D

Blaenoriaethau’r Rheoliad Datblygu Gwledig a’r meysydd y maent yn canolbwyntio arnynt

 

Blaenoriaeth 1: Meithrin proses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi ym meysydd amaethyddiaeth a choedwigaeth ac mewn ardaloedd gwledig

(a) Meithrin arloesi a’r sylfaen wybodaeth mewn ardaloedd gwledig

(b) Cryfhau’r cysylltiadau rhwng amaethyddiaeth a choedwigaeth ac ymchwil ac arloesi

(c) Meithrin dysgu gydol oes a hyfforddiant galwedigaethol yn y sector amaethyddiaeth a’r sector coedwigaeth

 

Blaenoriaeth 2: Gwneud pob math o amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol a gwneud ffermydd yn fwy hyfyw

 

(a) Hwylus’r broses o ailstrwythuro ffermydd sy’n wynebu problemau strwythurol mawr, yn enwedig ffermydd sy’n chwarae rhan fach yn y farchnad, ffermydd sy’n canolbwyntio ar y farchnad mewn sectorau penodol a ffermydd y mae angen iddynt arallgyfeirio’n amaethyddol

(b) Creu cyfleoedd i genhedlaeth newydd yn y sector amaethyddol

 

Blaenoriaeth 3: Hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd a rheoli risg mewn amaethyddiaeth

(a) Integreiddio cynhyrchwyr cynradd yn well i’r gadwyn fwyd drwy gynlluniau ansawdd, drwy hyrwyddo mewn marchnadoedd lleol a chylchoedd cyflenwi byr, grwpiau cynhyrchwyr a sefydliadau cydadrannol

(b) Helpu i reoli risg ar ffermydd

 

Blaenoriaeth 4: Adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

(a) Adfer a gwarchod bioamrywiaeth, gan gynnwys mewn ardaloedd Natura 2000 a ffermydd sydd o werth mawr i natur, a chyflwr tirweddau Ewrop

(b) Gwella’r dulliau a ddefnyddir i reoli dŵr

(c) Gwella dulliau rheoli pridd

Blaenoriaeth 5: Hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi’r symudiad tuag at economi carbon isel sy’n medru gwrthsefyll yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth

(a) Bod y diwydiant amaethyddol yn defnyddio dŵr yn fwy effeithlon

(b) Bod y diwydiant amaethyddol a’r diwydiant prosesu bwyd yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon

(c) Hwyluso cyflenwi a defnyddio ynni adnewyddadwy, isgynhyrchion, gwastraff, gweddillion a deunyddiau crai eraill nad ydynt yn fwyd at ddibenion y fio-economi

(d) Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac amonia sy’n deillo o amaethyddiaeth, a gwella ansawdd yr aer

(dd) Meithrin gwaith i ddal a storio carbon ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth

 

Blaenoriaeth 6: Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig

(a) Hwyluso arallgyfeirio, creu a datblygu mentrau bach a chreu swyddi

(b) Meithrin datblygiadau lleol mewn ardaloedd gwledig

(c) Ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) mewn ardaloedd gwledig, a’i gwneud yn haws iddynt ei defnyddio a gwella’i hansawdd

 

 

 



[1] O’i addasu ar gyfer chwyddiant, dyna leihad o 12.6%.

[2] O’i addasu ar gyfer chwyddiant, mae’n lleihad o 5.5%.

[3] Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy Cymru.

[4] http://www.aber.ac.uk/en/ibers/science-into-practice/fbs/fbs-database/

[5] Persons setting up as head of holding for the first time or within the last five years and who are no more than 40 years old.  The Welsh Government may apply additional eligibility criteria.

[6] O’r 16,048 o hawlwyr yn 2012.

[7] Taliadau bach yw’r rheini sy’n llai na €5,000 dros y cyfnod pontio llawn (colled ar gyfartaledd o lai na €1,000 y flwyddyn).